Drwy ymuno â’r rhwydwaith fel aelod llawn, fe allwch chi fanteisio ar y canlynol:
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am bethau sy’n digwydd, drwy ein rhestr bostio.
- Mynediad i ardal aelodau ar y wefan, lle gallwch chi drafod y pethau sy’n bwysig i chi gyda rhieni eraill a gofyn cwestiynau i weithwyr proffesiynol anabledd.
- Cyfle i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau yngl?n â datblygu gwasanaethau yn y dyfodol.
- Cyfrannu at wybodaeth fanylach darparwyr gwasanaeth o anghenion ein cymuned, fel y gellir cynllunio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol yn fwy effeithiol. Ni fydd unrhyw ddata personol yn cael ei rannu. Darllenwch ein polisi preifatrwydd yma.
Rhestr wirio aelod llawn
- Rydych chi’n gofalu am blentyn neu berson ifanc sy’n derbyn Elfen Ofal Lwfans Byw i’r Anabl ar y gyfradd uwch neu ganol.
- Rydych chi’n byw yn Sir Conwy.
Llenwch y ffurflen isod i wneud cais i ymuno â’r Rhwydwaith
[ninja_forms_display_form id=8]
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd arnom ni angen adolygu’ch cais, ac efallai y byddem yn cysylltu â chi am fwy o wybodaeth. Ar ôl i ni gymeradwyo’ch cais, byddwn yn anfon eich manylion mewngofnodi i’r ardal fforwm preifat atoch chi mewn e-bost.