Elusen genedlaethol yw Cerebra sydd â’r nod o wella bywydau plant a chanddynt gyflyrau niwrolegol drwy gyfrwng ymchwil a thrwy roi cymorth uniongyrchol i deuluoedd.
Gall byw â chyflyrau niwrolegol wneud bywyd yn anodd iawn, nid yn unig i’r plentyn ond i’r teulu cyfan hefyd. Yn Cerebra ein nod yw ei gwneud pethau fymryn yn haws.
Wyddech chi ein bod yn cynnig:
- Gwybodaeth a chyngor yngl?n ag amrywiaeth o bynciau, dros y ffôn neu drwy ein gwefan, gan gynnwys ein canllawiau poblogaidd iawn i rieni
- Canllawiau manwl ar lenwi’r Ffurflen Lwfans Byw i’r Anabl
- Gwasanaeth cysgu i roi cyngor a chymorth i deuluoedd ar amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â chysgu
- Grantiau o hyd at 80% o gost o offer a gwasanaethau i wneud bywyd yn haws ac yn fwy pleserus
- Llyfrgell o lyfrau ac offer synhwyraidd i’w benthyca am ddim drwy’r post
- Gwasanaeth cwnsela ffôn am ddim
- Cartref gwyliau
- Cynllun ewyllysiau ac ymddiriedolaethau
- ‘Portffolios Personol’ i fod o gymorth wrth gyflwyno plant i bobl newydd y byddant yn eu cyfarfod
- Canolfan Arloesi i ddylunio offer wedi eu dylunio’n arbennig ar gyfer eich plentyn
- Cylchlythyr misol yn llawn erthyglau a straeon
I gael gwybod rhagor am ein gwasanaethau, ffoniwch ni ar 0800 328 1159 neu ewch i’n gwefan www.cerebra.org.uk
Leave a Reply