Mae Nia Lederle, Rheolwr Pobl Ifanc a Theuluoedd ar gyfer Gofal Arthritis wedi bod yn gweithio’n ddiweddar ar ddatblygu gwasanaeth ar gyfer Pobl Ifanc ag Arthritis yng Nghymru.
Mae Nia wedi bod yn gweithio gyda gwirfoddolwyr ifanc sydd ag arthritis eu hunain i ddatblygu gr?p yng Ngogledd Cymru gyda chyfarfodydd yn cael ei cynal o amgylch Llandudno ar ardal. Nod y gr?p yw darparu cefnogaeth, gwybodaeth a chyfle i bobl ifanc ag arthritis neu gyflwr debyg i ddod at ei gilydd.
Ym mis Medi cafodd y grwp ddiwrnod gwych pan aethant i roi cynnig ar sgïo. Roedd hyn yn rhywbeth nad oedd unrhyw aelod o’r gr?p wedi ei wneud o’r blaen ac yn meddwl na fyddent yn gallu ei wneud. Ond gyda hyfforddwr cefnogol a digon o amser cafodd y gr?p amser gwych. Cafodd pawb hwyl fawr iawn hefyd ar y tiwbiau eira.
Ar ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr mae’r gr?p wedi trefnu gweithyd ‘Fy Nghyflwr a Fi .’ a fydd yn cael e redeg gan ‘North Wales Health.’ Mi fydd y gweithdy yn anelu i roi gwybodaeht am lles emosiynol, y mecanweithiau i ymdopi a sut i gymryd rheolaeth, yn ogystal fel gweithgaredd llawn hwyl ar sut i ymlacio.
Hefyd mi fydd Contact a Family Cymru yn rhedeg sesiwn i rieni ar yr un pryd, gan ddarparu gwybodaeth am y sefydliad, ac y sgiliau sy’n defnyddiol wrth ymdrin a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg / iechyd / gofal cymdeithasol.
Bydd y gweithdy yn dechrau am 11:00 ac yn rhedeg tan 1:00 ac wedyn mi fydd cinio ysgafn ar gael. Nid oes unrhyw gost i fynychu’r gweithdy a sesiwn a chael cinio.
Manylion:
11:00 yb Aberconwy Mind, Caffi a Chanolfan The Rabbit Hole, 3-4 Sgwâr y Drindod, Llandudno. LL30 2PY
Mae’n rhaid cadw lle
I gadw lle neu i wybod mwy cysylltwch â Nia ar 07834418461 neu anfonwch e-bost at nial@arthritiscare.org.uk
Gofal Arthritis yw’r sefydliad mwyaf yn y DU sy’n gweithio gyda a thros holl bobl ag arthritis. Rydym yn darparu gwybodaeth, arweiniad a chymorth ymarferol i’ch helpu i aros yn annibynnol yn weithgar ac yn gysylltiedig. Am ragor o fanylion cysylltwch â Nia Lederle ar 07834418461 neu e-bostiwch nial@arthritiscare.org.uk.
Gallwch hefyd ymweld â’n tudalennau facebook – ArthritiscareWales / northwaleschronic youths neu ein gwefan www.arthritiscare.org.uk
Leave a Reply