Dewch i gymryd rhan mewn dau weithdy rhyngweithiol i geisio hyrwyddo lefelau o weithgaredd corfforol a phwysau iach ledled Gogledd Cymru.
Dydd Mercher 20fed Gorffennaf, 9.30am – 4.30pm @ Canolfan Fusnes Conwy, Cyffordd Llandudno, LL31 9XX.
Cael Gogledd Cymru i Symud | 10 Cam i Bwysau Iach Digwyddiad Lansio Gogledd Cymru |
Nod sesiwn y bore yw: · Rhoi trosolwg o’r strategaeth genedlaethol ar gyfer gweithgaredd corfforol, ‘Cael Cymru i Symud’ · Gweithdy rhyngweithiol i ennyn diddordeb partneriaid yn y gwaith o ddatblygu strategaeth gweithgaredd corfforol ar gyfer Gogledd Cymru, ‘Cael Gogledd Cymru i Symud’ | Nod sesiwn y prynhawn yw: · Lansio 10 cam i Bwysau Iach yng Ngogledd Cymru drwy godi ymwybyddiaeth am y prif negeseuon. · Edrych ar yr hyn mae’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym am gamau i atal gordewdra mewn plentyndod. · Darparu dewis o sesiynau gweithdai rhyngweithiol ar y prif agweddau ar y 10 cam. |
Cofrestrwch eich diddordeb mewn dod i’r gweithdai hyn drwy anfon neges e-bost at bryony.holmes@wales.nhs.uk erbyn dydd Llun 30fed Mehefin 2016. Anfonir neges e-bost yn ôl atoch i gadarnhau eich lle yn y gweithdy/gweithdai.
Sylwch, gall y mynychwyr ddod i sesiwn y bore neu i sesiwn y prynhawn neu i’r diwrnod cyfan. Mae’r digwyddiad am ddim a bydd yn cynnwys lluniaeth a chinio. A fyddech mor garedig ag anfon neges e-bost i gadarnhau eich bod eisiau cinio, a soniwch am unrhyw ofynion arbennig o ran deiet.
Leave a Reply