Mae gan Gonwy amrywiaeth eang, a rhai o’r cyfleoedd chwaraeon gorau yng Nghymru ar gyfer pobl anabl. Mae’r llyfryn hwn yn cynnwys manylion am gyfleoedd mewn clybiau a gwahanol sesiynau sy’n cael eu cynnal mewn canolfannau hamdden yn rheolaidd.
Mae cyfleoedd i gymryd rhan ac i berfformio ar gyfer pob gr?p o unigolion â nam fel bod pobl o bob gallu yn cael y cyfle i gymryd rhan. Gyda sesiynau a chlybiau penodol i bobl anabl yn ogystal â chlybiau cynhwysol i bobl sydd ddim yn anabl, mae’n amser gwych i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol yng Nghonwy. Cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru am fwy o wybodaeth neu gydag aelod o Dîm Datblygu Hamdden Conwy ar y manylion isod:
01492 575593
chwaraeon.anabledd@conwy.gov.uk
Leave a Reply