Mae Cerebra yn ariannu ymchwil yn y ‘Cerebra Centre for Neurodevelopmental Disorders (CCND)’, sydd wedi arwain at gynhyrchu sawl canllaw newydd i rieni.
Mae tri chanllaw newydd wedi’u cynhyrchu:
Poen mewn plant ag anabledd deallusol difrifol: Canllaw i rieni
Mae’r canllaw hwn yn esbonio achosion posibl poen mewn plant ag anabledd deallusol, yn rhoi gwybodaeth am sut y gall plant nad ydynt yn gallu dweud eu bod mewn poen ddangos hynny, ac yn trafod effeithiau poen heb ei drin ar y plentyn.
Arestio a chosbi plant anabl: Canllaw i Rieni
Nod y canllaw hwn yw rhoi gwybodaeth am yr hyn fyddai’n digwydd os bydd eu plentyn yn dod i gysylltiad â’r heddlu, a beth yw ei hawliau. Mae hefyd yn rhoi manylion sefydliadau defnyddiol ac adnoddau a all ddarparu cymorth a chefnogaeth bellach.
Cefnogi plant anabl a phobl ifanc sy’n ddioddefwyr neu’n dystion i drosedd
Nod y canllaw hwn yw cefnogi plant â chyflwr niwrolegol, sydd naill ai wedi bod yn dyst i drosedd neu’n ddioddefwr trosedd, ac mae’n rhoi gwybodaeth am effaith y drosedd, y cymorth sydd ar gael a hawliau’r plentyn.
Ewch i wefan Cerebra i gael rhagor o wybodaeth ac i lawrlwytho’r canllawiau.
Leave a Reply