Diolch am edrych ar ein tudalen Amdanom ni!
Hanes byr o Rwydwaith Anabledd Conwy
Cafodd ei alw gynt yn Gofrestr Anabledd, darparwyd y gwasanaeth ar draws Conwy a Sir Ddinbych ac roedd yn cael ei hwyluso gan Barnardos o’u swyddfa yn Henllan.
Roedd amcanion y Gofrestr yn ddeublyg:
- i gasglu gwybodaeth fel y gallai’r gwasanaethau gynllunio ymlaen yn fwy effeithiol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am y math o anghenion oedd gan bobl, ac yn cysylltu â’r wybodaeth feddygol o’r gronfa ddata Iechyd.
- i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol i deuluoedd, drwy newyddlen.
Daeth y “Gofrestr Anabledd” fel yr oedd, i ben yn 2012.
Mae’r Rhwydwaith Anabledd Conwy fel yr awgryma’r enw, yn benodol i Gonwy, ond yn anelu at gyflawni’r un pethau â’r Gofrestr wreiddiol – i helpu gwasanaethau gynllunio’n fwy effeithiol drwy ddeall lefel yr angen yn ein cymuned, ac i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol i deuluoedd.
Roedd y bobl ganlynol wedi helpu i sefydlu’r wefan hon, fel rhan o weithgor amlasiantaeth:
- Alan Lorrimer-Riley, Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy (sydd bellach wedi ymddeol)
- John Fozzard, Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy
- Dr Bev Graham, BIPBC – Paediatreg
- Ian Davies, Gwasanaethau Addysg Conwy
- Alan Thompson, Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy
Hefyd diolch arbennig i Ramona Murray ac Alex Fryer, Gwasanaethau Anabledd Integredig, Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy am eu cefnogaeth.
Hoffech chi gyfrannu?
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn materion anabledd o fewn Conwy, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.
Efallai eich bod yn rhiant, yn berson ifanc, efallai eich bod yn darparu gwasanaeth, neu’n rhedeg clwb neu gr?p?
Rydym yn edrych yn benodol am wybodaeth ar gyfer ein Calendr digwyddiadau, Cronfa ddata sefydliadau, ac erthyglau newyddion cyffredinol ar gyfer y blog.
Defnyddiwch cysylltu os hoffech chi gysylltu â ni.